Lleoliad:
Remote - Digital
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Medi 2022
Amser: 09.03 - 09.25
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai'n talu teyrnged fer i’r cyn-Aelod Mick Bates, a fu farw’n ddiweddar, ar ddechrau'r cyfarfod heddiw.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai busnes a ohiriwyd o 13 a 14 Medi oherwydd y cyfnod o Alaru Cenedlaethol ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines yn cael ei aildrefnu ar gyfer 20 a 21 Medi, gan gynnwys y Cwestiynau Llafar a chynigion sydd eisoes wedi'u cyflwyno ar gyfer dadl. Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Dydd Mercher
Esboniodd y Llywydd, gan nad oes ffenestr lawn ar gyfer cyflwyno gwelliannau i gynigion y ddadl ddydd Mercher wedi bod yn bosibl cyn hyn, y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn derbyn gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Yn unol â hynny, bydd Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog dros dro yn cael ei ychwanegu i agenda dydd Mercher i ganiatáu i unrhyw welliannau a gyflwynwyd gael eu trafod.
Hysbysodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes o sawl newid i weithdrefnau pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn o ddechrau tymor yr hydref, yn dilyn trafodaethau blaenorol yn y Pwyllgor Busnes a diwygiadau a wnaed i Reolau Sefydlog ar ddiwedd tymor yr haf. Nododd hefyd y bwriad i roi'r gorau i'r arfer o gael egwyl cyn y cyfnod pleidleisio, unwaith y mae Aelodau wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â'r trefniadau newydd.
Bydd canllawiau wedi'u diweddaru ar drafodion hybrid a rhithwir yn cael eu trafod ymhellach gan y Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion yn fuan, cyn cael eu darparu i Aelodau.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 27 Medi 2022 -
Dydd Mawrth 4 Hydref 2022 –
Dydd Mawrth 11 Hydref 2022 –
o Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
o Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Mae’r dyddiadau ar gyfer sesiynau Cwestiynau Llafar yn y dyfodol hefyd wedi'u haddasu yn dilyn y cyfnod o Alaru Cenedlaethol a byddant yn cael eu hailgyhoeddi.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen, a’u hail-drefnu, yn dilyn y cyfnod o Alaru Cenedlaethol.
Dydd Mercher 28 Medi 2022 –
Dydd Mercher 5 Hydref 2022 –
Dydd Mercher 12 Hydref 2022 –
Hysbysodd y Llywydd y Pwyllgor Busnes mai'r dyddiad cau newydd i Aelodau ar gyfer cyflwyno cynigion i’w dethol ar gyfer y Ddadl Aelodau a drefnwyd ar gyfer 5 Hydref fydd 5pm ddydd Iau 22 Medi. Oherwydd Gŵyl y Banc, bydd y balot ar gyfer sesiynau Cwestiynau Llafar yr wythnos nesaf yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 20 Medi.
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - amserlen ddiwygiedig
Cyflwynodd y Trefnydd amserlen ddiwygiedig ar gyfer craffu ar y Bil, oherwydd y bu oedi o ran ei chyflwyno tan ar ôl y cyfnod o Alaru Cenedlaethol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig, ac i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.
4.2 Bil Amaethyddiaeth (Cymru) - amserlen
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, ac i ohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
4.3 Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Darparodd y Trefnydd ddiweddariad ar Femoranda a biliau Llywodraeth y DU. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr hyn a ganlyn:
5 Amserlen y Senedd
5.1 Dyddiadau toriadau
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor y Gwanwyn a Phasg 2023, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a Haf 2023.
6 Unrhyw faterion eraill
Biliau eraill y cynhelir gwaith craffu arnynt ar hyn o bryd
Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad llafar ar y ddau fil y mae’r Senedd yn craffu arnynt ar hyn o bryd: y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Cynigiodd y Trefnydd na ddylai’r amserlenni ar gyfer y Biliau hyn newid, ond nododd y byddai’r Llywodraeth yn agored i’r syniad o drafod estyniad byr i’r terfyn amser ar gyfer cyfnod Ystyriaeth Gychwynnol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) pe bai’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ystyried bod hynny’n ddefnyddiol.
Nododd y Pwyllgor Busnes y diweddariad, a chytunodd i ymgynghori â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o ran y dulliau arfaethedig o bennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y ddau fil.